Llyfrau ar Olwynion

Os nad ydych chi’n gallu gadael eich cartref neu’n cael trafferth symud o gwmpas, rydym ni’n darparu gwasanaeth am ddim yn syth i’ch drws.

Os nad ydych chi’n gallu gadael eich cartref neu’n cael trafferth symud o gwmpas, fe all ein gwasanaeth Llyfrau ar Olwynion ddod â’r llyfrgell at eich drws. Rydym ni’n ymweld â channoedd o bobl bob mis a darparu llyfrau, DVDs a llyfrau llafar i gwsmeriaid sydd ddim yn gallu cyrraedd ein llyfrgelloedd cymunedol. Mae modd i chi bori ac archebu llyfrau o’n dewis ar-lein neu ofyn i’n staff cyfeillgar, proffesiynnol i ddewis ar eich rhan. Mae gennym ddewis eang o lyfrau print bras a llyfrau llafar ar gyfer cwmeriaid gyda diffyg gweld, a gallwn hefyd gefnogi lawrlwytho llyfrau llafar. Os ydych chi’n meddwl y byddwch chi neu berthynas i chi yn buddio o’r gwasanaeth, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe