Llyfrgell Dros Dro a Swyddfa Bost Dros Dro Llyfrgelloedd Abercynffig

004_Aberkenfig, Pyle & Mobile

Bydd Llyfrgell Abercynffig yn cynnal llyfrgell dros dro yn ystod y cyfnod y bydd ar gau. Bydd y llyfrgell dros dro ar agor bob Dydd Mawrth rhwng 11am a 3pm rhwng 9 Ionawr a 12 Mawrth 2024.

Bydd y llyfrgell dros dro yn Neuadd Les Abercynffig, Hope Avenue, Abercynffig, CF32 9PR.

Bydd y Swyddfa Bost dros dro hefyd ar agor yn Neuadd Les Abercynffig rhwng 1:15pm a 3pm.

Chwilio am sesiynau Bownsio a Rhigwm lleol yn eich Llyfrgelloedd Awen agosaf? Ar Ddydd Iau, mae Llyfrgell y Pîl yn cynnal sesiwn Bownsio a Rhigwm am 10am a Llyfrgell Sarn am 10.15am tra bod Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal sesiynau ar Ddydd Llun a Dydd Mercher am 10am.

Cysylltwch â’ch llyfrgell leol nawr am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim yn y sesiynau.

Bydd cyfleusterau argraffu a chyfrifiaduron ar gael yn Llyfrgell Sarn o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 10am – 1pm, a 2pm – 5pm.

Cysylltwch â Llyfrgell Sarn ar 01656 754853 am fwy o wybodaeth.

Mae llyfrgelloedd Awen eraill gerllaw yng Nghanolfannau Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, y Pîl a’r Betws.

Rhannu’r dudalen hon

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe