Dathliad Parti yn y Parc Sialens Ddarllen yr Haf 2023

SRC-Celebration-2023-Website-News-Item

I ddathlu’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf 2023 a’r rhai sydd wedi ennill medalau, bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cynnal parti ym Mharc Lles Maesteg ddydd Sadwrn 9 Medi rhwng 11am a 2pm. Bydd yn ddigwyddiad llawn hwyl i’r teulu wedi’i gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymoedd i’r Arfordir, Llywodraeth Cymru, Celfyddydau a Busnes Cymru, Halo Leisure a Chyngor Llyfrau Cymru.

Bydd ’Parti yn y Parc’ yn cynnwys teganau llawn aer o Full of Bounce, gemau anferth, beiciau cydbwysedd gan Halo, crefftau a gemau gan Cymoedd i’r Arfordir a straeon a mwy gan Lyfrgelloedd Awen. Mae’r holl weithgareddau am ddim.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: …

“Mae Her Ddarllen yr Haf bob amser yn un o uchafbwyntiau blwyddyn y llyfrgell. Ar ôl cael digwyddiad lansio mor wych ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle gwelais drosof fy hun frwdfrydedd pobl ifanc i fynd ati i ddarllen, mae’n briodol y dylem ni hefyd ddathlu ymdrechion pawb a gyflawnodd yr her neu a wnaeth ond fwynhau bod yn rhan ohoni.

Mae Her eleni wedi dod ag amrywiaeth o bartneriaid at ei gilydd ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth.

Mae’n addo bod yn ddiwrnod gwych a lle gwell i’w gynnal nag ym Mharc Lles arbennig Maesteg .”

Cofiwch wisgo eich medal ar y diwrnod, yn union fel eich hoff seren chwaraeon!

Rhannu’r dudalen hon

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe