Cystadleuaeth Creu Cymeriad – Gŵyl Llên Plant Pen-y-Bont Ar Ogwr

BCLF Create A Character Competition Blog Graphic

Ydych chi’n egin artist neu ddarlunydd gyda dychymyg mawr? Beth am ddylunio cymeriad eich llyfr eich hun ar gyfer ein cystadleuaeth newydd!

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ddydd Sadwrn, 20 Mai 2023 ac yn gorffen ddydd Sadwrn, 17 Mehefin 2023. Cyflwynwch eich cymeriad i’ch Llyfrgell Awen leol.

Bydd yr enillydd yn cael talebau llyfrau gwerth £25, bag rhoddion arlunio a chael troi ei gymeriad yn degan moethus iddo’i hun! Bydd yr ail orau yn cael copi o lyfr Rob Biddulph, ‘Draw with Rob’, a bag rhoddion arlunio. Bydd y cymeriadau buddugol yn cael eu harddangos yn Llyfrgelloedd Awen ac ar ein gwefan.

Mae’r manylion isod:

Dyddiad dechrau – Dydd Sadwrn, 20 Mai 2023.

Dyddiad cau – Dydd Sadwrn, 17 Mehefin 2023.

Dylid cyflwyno pob cymeriad i’ch llyfrgelloedd lleol erbyn y dyddiad cau.

Awrgrymedig ystod oedran – plant 5-11 oed. Dylid targedu Ysgolion Cynradd.

Gwobrau – Gwobr Gyntaf – talebau llyfrau gwerth £25, bag rhoddion arlunio a chael troi eich cymeriad yn degan moethus i chi eich hun.

Ail Wobr – Copi o lyfr Rob Biddulph ‘Draw with Rob’ a bag rhoddion arlunio.

Thema – Darllen neu lyfrau.

Inspiring a lifelong love of reading, celebrating stories and bringing books to life. 
Yn ysgogi cariad oes at ddarllen, yn dathlu straeon ac yn dod â llyfrau’n fyw.

Yn rhan o Ŵyl Llên Plant Pen-y-bont ar Ogwr, wedi ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Part of Bridgend Children’s Literature Festival supported by Awen Cultural Trust, Arts Council of Wales, Welsh Government and Bridgend County Borough Council. 

Noddir y tocynnau llyfr yn garedig gan CYNGOR LLYFRAU CYMRU.

Rhannu’r dudalen hon

Llyfrgell Abercynffig yn Ailagor

Bydd Llyfrgell Abercynffig yn ailagor ddydd Llun, 18 Mawrth, yn dilyn gwaith adeiladu hanfodol. Bydd yr oriau agor arferol yn ailgychwyn. Bydd ein llyfrgell dros dro a’r gwasanaeth Swyddfa Bost

Darllen Rhagor

Streic Y Glowyr Yn 40 Oed

Mae diwydiant, ac yn enwedig mwyngloddio glo, yn rhan hanfodol o’n hanes lleol. Roedd y pyllau glo yn dod â gweithwyr i’r cymoedd, gyda threfi’n tyfu yn yr amseroedd gorau

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe