Ffenestri Ffantastig

Wonderful Windows Post 1[72]

Ymunwch â ni fis Chwefror wrth i ni eich gwahodd i ddod â rhywfaint o liw a chreadigrwydd i’n strydoedd trwy gymryd rhan yn ein prosiect Ffenestri Ffantastig.

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gofyn i bobl addurno eu ffenestri yn ystod hanner tymor i helpu i greu oriel gymunedol, gan ddefnyddio’r thema ‘Ysbrydoli Cymru’. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw rhai deunyddiau crefft syml a’ch dychymyg. Byddwn yn rhannu awgrymiadau a syniadau da i chi greu eich arddangosfeydd eich hun, neu gallwch ddod draw i un o’n gweithdai. Bydd pecynnau o ddeunydd crefft ar gael i chi eu prynu hefyd, er mwyn i chi allu ymuno a chreu arddangosfa gartref!

Arddangoswch eich creadigaethau yn eich ffenestri ar 25 a 26 Chwefror, a chofiwch rannu eich arddangosfeydd ffenestr gorffenedig ar-lein gan ddefnyddio’r hashnodau #WonderfulWindows #FfenestriFfantastig er mwyn i bobl eraill eu mwynhau hefyd.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ac am syniadau ar gyfer eich creadigaethau, ymunwch â’n grŵp Facebook yma: https://orlo.uk/XpiQl

Rhannu’r dudalen hon

Ymgyrch Darllen a Dychwelyd BorrowBox

Ydych chi wrth eich bodd yn defnyddio Borrowbox? OFedi18byddcyfnodau benthyg newydd yn cael eucyflwyno– a bydd pobeitemyncaeleibenthygambythefnosyn hytrach na 3 wythnos.Ond does dim angenpoeniosydych chi’nhofficymrydeichamser,byddwchchi’n dalialluadnewyddu’cheitemau. MaeBorrowBoxhefydynannogpobli”Ddarllen a Dychwelyd”adod age-Lyfrauneue-lyfrau

Darllen Rhagor

Rhestr Llyfrau Newydd

A oes gennych chi ddiddordeb yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o fis Medi 2023:

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe