Dyfarnu Cyllid i Lyfrgell Pencoed i’w Hailwampio

Pencoed Library 1

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi cael grant oddi wrth Gynllun Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i ailwampio a moderneiddio Llyfrgell Pencoed. Rydym yn elusen gofrestredig sy’n rheoli gwasanaethau llyfrgell ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a byddwn yn darparu cyllid cyfatebol i osod paneli solar ar y to sy’n wynebu’r de, gan gyfrannu at greu adeilad mwy cynaliadwy.

Bydd Llyfrgell Pencoed yn cau yn ddiweddarach yn yr hydref ac yn ailagor yn gynnar yn 2023 ar gyfer ei phen-blwydd yn 50.

Bydd y cynlluniau’n cynnwys:

  • Diweddaru’r holl hen ddodrefn ag opsiynau mwy symudol i sicrhau y gellir defnyddio’r lle i roi mwy o hyblygrwydd ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau.
  • Creu lle gweithio/astudio newydd i helpu i gefnogi’r rhai sy’n gweithio o bell, neu sydd angen lle tawel i weithio, pobl ifanc sy’n chwilio am le tawel i wneud gwaith ysgol, gwaith prifysgol, neu i gwblhau unrhyw waith mewn lle tawel, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol neu astudiaethau.
  • Adeiladu ystafell gyfarfod gymunedol at ddefnydd grwpiau lleol a gwasanaethau cymorth.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae Llyfrgell Pencoed yn gwasanaethu poblogaeth sy’n tyfu o dros 12,000 o bobl, ond mae ei chynllun presennol wedi bod mwy neu lai yr un fath am 49 mlynedd. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cyllid a fydd yn caniatáu i ni wneud addasiadau ac adnewyddu’r lle er budd y gymuned gyfan. Fel rhan o ymrwymiad Awen i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil ar gyfer ynni, rydym yn falch o ddefnyddio’r cyfle ailwampio hwn i osod paneli solar ar y to yn Llyfrgell Pencoed.”

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi’r gwasanaethau pwysig hyn sy’n cyflawni rôl werthfawr sy’n ganolog i fywyd cymunedol. Bydd y gronfa hon yn ehangu mynediad ar gyfer ein cymunedau, yn hyrwyddo ymgysylltiad diwylliannol, yn darparu cyfleoedd dysgu ac yn cefnogi cydlyniant cymunedol, cynaliadwyedd a ffyniant. Rwy’n annog pawb i weld beth all eu hamgueddfa, archif neu lyfrgell leol ei gynnig.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol: “Mae’r grant hwn yn newyddion gwych i Bencoed a’r cyffiniau. Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan hynod bwysig yn ein cymunedau i bobl o bob oedran a chefndir.

“Bydd ein partneriaeth lwyddiannus ag Awen yn ein helpu i greu mannau modern sy’n darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl fwyaf, fel mannau gweithio o bell, yn ogystal â mannau croesawgar i ddarllen, gweithio a chymdeithasu yn y gymuned leol.”

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024 a’u rhaglen haf o weithgareddau llyfrgell gyda digwyddiad hwyliog i’r teulu yng Nghaeau Newbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe