Categories
Cymraeg

Rhannwch eich profiad o’r llyfrgell

Ydy’r ffordd rydych chi’n defnyddio’r llyfrgell wedi newid oherwydd y coronafeirws?

Hoffwn glywed  am eich profiad, boed hynny’n aros gartref, defnyddio ein cynfleusterau ar-lein, defnyddio ein gwasanaeth ‘archebu a chasglu’, neu alw heibio i bori rhwng y cyfnodau clo.

Llanwch yr holiadur byr, anhysbys hwn a defnyddiwn ni’r canlyniadau wrth ddatblygu gwasanaethau ein llyfrgelloedd ymhellach.

English survey – Click here
Arolwg Cymraeg – Cliciwch yma

Categories
Cymraeg

Cefnogi iechyd meddwl a lles plant

I gydfynd ag Wythnos Iechyd Meddwl Plant, mae’r elusen Brydeinig The Reading Agency a Libraries Connected yn lawnsio cynllun iechyd meddwl plant newydd fel rhan o’r prosiect ‘Reading Well’.

Mae rhestr darllen Reading Well ar gael i’w harchebu a chasglu yn Gymraeg a Saesneg gan lyfrgelloedd ar draw fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n nhw’n cyffwrdd â phynciau megis  gorbryder, colled a bwlio, ac wedi’u dewis yn ofalus gan arbenigwyr ym maes iechyd i genfogi iechyd meddwl a lles plant.

Categories
Cymraeg

Mis Hanes LHDT+

Mae llyfrgelloedd Awen yn falch i gefnogi Mis Hanes LHDT+ ym mis Chwefror.

Ewch i’n tudalen Facebook @awenlibraries i ddysgu am ddewis o ddeunyddiau yn ymwneud â thestunau LHDT+ sydd ar gael i’w harchebu a chasglu neu i’w lawrlwytho o’n llyfrgelloedd.